Wednesday 10 March 2010
.

Cadeirydd newydd Cyngor Lantra yng Nghymru

Penodwyd Lionel Walford yn Gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Lantra Cymru ym mis Gorffennaf 2009. Roedd ei benodiad yn rhan o fenter ehangach i sicrhau bod Cyngor Sgiliau Sector Lantra yn parhau i gael ei arwain yn gyfan gwbl gan gyflogwyr, gyda’r nod o gryfhau pedwar Cyngor Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

 

Mae Lionel Walford yn asesydd recriwtio a pherfformiad i nifer o adrannau’r llywodraeth ac yn gyn-Gyfarwyddwr Amaeth yng Nghymru. Mae ganddo brofiad helaeth o fyd amaeth a sefydliadau’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod annibynnol o Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, Cadeirydd Bwrdd Ardollau Cymru a Chadeirydd Ardystio Bwyd Cymreig Safonol Cyf.

 

Meddai Lionel Walford: “Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle hwn i helpu i ddatblygu swyddogaeth strategol Lantra yng Nghymru ymhellach. Mae’r sector amgylcheddol a diwydiannau’r tir yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a bydd ei swyddogaeth yn bwysicach fyth wrth sicrhau bod Cymru’n cyrraedd targedau’r dyfodol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, rheoli cefn gwlad, diogelwch bwyd ac ynni.”

 

Lionel Walford
Lionel Walford, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Lantra Cymru

Mae Cyngor Lantra yng Nghymru yn gwneud gwaith allweddol gan ei bod hi’n hanfodol cael corff cryf o gyflogwyr sy’n gallu llywio penderfyniadau polisi a cheisio dylanwadu ar ddatblygiadau ar ran y sector. Bydd aelodau’r Cyngor hefyd yn hyrwyddo pwysigrwydd hollbwysig buddsoddi mewn sgiliau, arloesedd a thechnolegau a dulliau gweithio newydd ymhlith ffermwyr a busnesau gwledig eraill fel hanfodion er mwyn goroesi’r dirwasgiad a sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

 

Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Lantra yng Nghymru: “Mae’n bleser croesawu Lionel fel Cadeirydd Cyngor Lantra yng Nghymru. Bydd ei brofiad yn sicrhau ein bod ni’n parhau i ddatblygu ein cysylltiadau â chyflogwyr a phartneriaid allweddol yn y sector ac yn dod o hyd i ddulliau arloesol o gynorthwyo datblygiad hyfforddiant a sgiliau yn ystod cyfnod sy’n anodd yn fasnachol i lawer o bobl.”

 

Mae swyddogaeth hollbwysig Lantra yn y sector yn tynnu sylw at y pryderon sy’n bodoli a materion yn ymwneud â hyfforddiant trwy weithio â phartneriaid blaenllaw. Yng Nghymru mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyswllt Ffermio, yn ogystal â chynrychiolaeth gref o blith darparwyr hyfforddiant a diwydiant.

 

Meddai Peter Martin, Prif Weithredwr Lantra: “Penodi Lionel yng Nghymru yw’r cam nesaf tuag at gryfhau swyddogaeth ein Cyngor Cenedlaethol. Gyda chymaint o benderfyniadau addysg, sgiliau a pholisi gwledig bellach yn cael eu cymryd ar lefel gwlad, mae’n rhaid i ni fod yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod y canlyniadau polisi cywir yn cael eu mabwysiadu er budd y sector. Yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn mae’n bwysicach fyth bod llais y diwydiant yn cael ei glywed a’n bod yn diwallu anghenion y sector.”