Sunday 01 August 2010
.

Tîm Lantra sy’n dod â sgiliau i’ch fferm chi

Bydd y Cydgysylltwyr Sgiliau’n darparu Rhaglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio fel rhan o wasanaeth cymorth blaenllaw Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer busnesau ffermio a choedwigaeth.

Mae’r Rhaglen yn darparu cymorth, gwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant cymeradwy â chymhorthdal i unigolion mewn busnesau sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio. 

Penodwyd Sarah Lewis i reoli’r Rhaglen i Lantra ac i fod yn Gydgysylltydd Sgiliau i Ranbarth y De-orllewin. Mae Sarah wedi gweithio i Lantra ers dros bedair blynedd ac wedi cydweithio’n agos â Chyswllt Ffermio yn y gorffennol.

Meddai Sarah, a fagwyd ar fferm deuluol yn Sir Benfro, “Rwy’n ymwybodol iawn o’r materion hyfforddiant sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth ac yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn sgiliau i sicrhau budd i’r busnes. Rwy’n edrych ymlaen at helpu ffermwyr Cymru i fanteisio ar y cyngor a’r cyllid sydd ar gael gan y Rhaglen hon.”

Chris Davies fydd yn gyfrifol am ranbarthau’r Canolbarth a’r De-ddwyrain. Mae cenedlaethau o’i deulu wedi bod yn ffermio mynydd, gan gynhyrchu ŵyn i’w gwerthu, ym Marchnad Aberhonddu yn bennaf. Mae ganddo brofiad o ffermio gwartheg eidion, gradd mewn TG a Rheolaeth a thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg i addysgu pobl dros 16 oed.

Farming Connect logo

Meddai Chris, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gallu cyfuno ffermio ac addysgu rhan-amser yng Ngholeg Powys yn Llandrindod ac Aberhonddu neu ymweld â ffermydd ar ran Cadwyn Cymru a Chyswllt Ffermio.

“Rwy’n gwerthfawrogi fy ngwreiddiau a’m hardal yn fawr, ond mae angen diwydiant ffermio hyfyw i sicrhau llwyddiant. Felly byddaf yn cael llawer o foddhad trwy allu cynnig fy mhrofiad fel ffermwr ac athro i’r diwydiant amaethyddiaeth, a gwella ei siawns o oroesi yn y byd modern, cyflym hwn. Rwy’n edrych ymlaen at helpu i ddarparu’r cyfleoedd hyfforddi a dysgu sydd eu hangen ar y gweithlu i sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gwaith yn iawn (y rhan fwyaf o’r amser o leiaf) a chyfrannu tuag at y dyfodol.”  

Mae Eryl Roberts, Cydgysylltydd Sgiliau newydd Rhanbarth y Gogledd, yn denant ar Ystad Ysbyty yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn hyn, bu’n gweithio’n rhan-amser i Gyswllt Ffermio ac mae ganddo nifer o swyddi yn y gymuned leol ac yn y byd cŵn defaid.

Lantra Skills Co-ordinators
O’r chwith i’r dde: Cydgysylltwyr Sgiliau Rhanbarthol Cyswllt Ffermio – Chris Davies, Sarah Lewis ac Eryl Roberts

Meddai Eryl, “Bydd y Rhaglen yn galluogi’r gymuned ffermio i ennill sgiliau a gwybodaeth ymarferol defnyddiol, a fydd yn hanfodol ar gyfer gwaith yn y dyfodol.”

Er mwyn cael cymhorthdal ar gyfer cyrsiau achrededig byr ac asesiad sgiliau busnes am ddim, mae angen i ffermwyr gofrestru gyda Chyswllt Ffermio (08456 000 813).  Gall cleientiaid sydd wedi cofrestru ffonio Lantra ar 01982 552646 i gael cymorth gan y Cydgysylltwyr Sgiliau hyn a fydd yn helpu i nodi anghenion, darparu gwybodaeth a chydgysylltu ceisiadau am arian. Am ragor o wybodaeth ewch i www.lantra.co.uk/wales neu dewch i adeilad Lantra ar Faes y Sioe yn ystod y Ffair Aeaf.