Wednesday 10 March 2010
.

Lantra yn cynnig cyfleoedd gwell i ddatblygu gyrfa yn y Sioe Fawr

Bydd Lantra, Cyngor Sgiliau Sector y DU ar gyfer yr amgylchedd a diwydiannau’r tir, yn agor drysau ei swyddfeydd unwaith eto ar faes y Sioe Fawr (20-23 Gorffennaf) ac yn gwahodd y cyhoedd i drafod eu hanghenion hyfforddi. 

 

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, bydd Lantra yn cynnal Parth Dysgu lle bydd darparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru sy’n cynnig hyfforddiant ym meysydd yr amgylchedd a diwydiannau’r tir yn arddangos eu darpariaeth ac yn cynnig cyngor.

 

Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Lantra yng Nghymru: “Mae’r diwydiant amaethyddol a diwydiannau’r tir yn hanfodol bwysig i Gymru – maent yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi ac yn helpu i gynnal ein diwylliant. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod sgiliau’n hollbwysig i sicrhau llwyddiant a hyd yn oed parhad busnesau, a bydd Lantra a’n partneriaid yn tynnu sylw at y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i fusnesau ac unigolion ddatblygu eu sgiliau a bod mor broffidiol â phosibl.”

 

Jane Hutt AM
Jane Hutt AC yn agor Parth Dysgu Lantra yn y Sioe Fawr y llynedd

Er mwyn darparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr eleni, mae Lantra wedi trefnu Parth Gyrfaoedd hefyd. Bydd yn cynnwys llawer o wybodaeth am swyddi yn y diwydiant amgylcheddol a diwydiannau’r tir a bydd Lantra ar gael i roi pobl ar ben ffordd i ymgeisio am swyddi, ysgrifennu curriculum vitae a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. 

 

Meddai Kevin: “Mae Lantra yn awyddus i hysbysu’r cyhoedd am y gyrfaoedd gwych, sgiliau uchel a gwerth chweil sydd ar gael yn ein diwydiannau. Yn ogystal â darparu gwybodaeth o bob math, bydd gennym “Fwrdd Swyddi” hefyd lle bydd cyflogwyr yn hysbysebu swyddi cyfredol a bydd ymwelwyr yn dysgu mwy am y sgiliau sydd eu hangen i wneud y swyddi hynny.”

 

Felly dewch i’n cyfarfod yn y sioe i gael gwybod beth sydd ar gael a sut gallwn ni helpu i ddatblygu’ch gyrfa.