Wednesday 10 March 2010
Search our Site
.

A’r enillwyr yw…

Uchafbwynt y Ffair Aeaf oedd Gwobrau Dysgwr Sector y Tir Lantra. Gyda’r rowndiau rhanbarthol wedi cymryd lle yn ystod mis Tachwedd, cyhoeddwyd yr enillwyr a phawb a lwyddodd i fynd i’r rownd derfynol Dydd Llun Tachwedd 26in a chawsant eu cyflwyno gyda’u gwobrau gan gyflwynydd teledu Cymraeg Alun Elidyr o raglen Ffermio S4C.

 

Roedd ymgeiswyr ledled Cymru yn gymwys i gystadlu am deitlau Gwobrau Dysgwr Sector y Tir, gyda Lantra yn apelio at dros 15,600 o fusnesau i enwebu unigolion sydd wedi rhagori mewn busnes neu eu gyrfa drwy hyfforddiant.

 

Roedd cyfanswm o naw enillydd rhanbarthol o Gymru gyfan yn gymwys i ennill y teitlau. Roedd pob un wedi dangos ymrwymiad i addysg alwedigaethol a hyfforddiant mewn diwydiannau gweithio ar y tir ers gadael ysgol.

Land-based Learners of the year
L-R Gordon McGlone, Tomos Dion Davies, Alun Elidyr (presenter of Fffermio on S4C), Julie Aimes-Carter, Richard & Dawn Lewis, Duncan Gardner.

Cynhaliwyd y gwobrwyo yn adeilad Lantra yn y Ffair Aeaf, gyda 70 yn bresennol i weld Tomos Dion Davies, Julie Amies-Carter a Richard a Dawn Lewis yn cael eu cyhoeddi’n enillwyr.

 

Mae Dion eisoes wedi datblygu gwybodaeth gref o’i ddiwydiant ac yntau dim ond yn 20 oed, ac mae wedi cymryd drosodd y fferm deuluol yn Llandysul, Ceredigion. Roedd yn ddewis cyntaf i’r panel o feirniaid a dyfarnwyd iddo deitl Dysgwr Ifanc y Flwyddyn 2007.

 

Mae Julie Amies-Carter, o Aberystwyth, Ceredigion wedi profi ei bod yn bwysig i beidio colli ffocws. Cafodd deitl Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn, ar ôl buddsoddi’r pymtheg mlynedd diwethaf mewn profiadau a hyfforddiant adref a thramor.

 

Yn ogystal â rheoli fferm o 110 o wartheg godro a 60-70 acer o rawn, mae Richard a Dawn Lewis wedi arallgyfeirio mewn ffordd unigryw drwy ymgorffori nid yn unig llwybr fferm ond hefyd cwrs golff Frisbee i’w fferm yn Slebech, Hwlffordd!

 

Derbyniodd yr enillwyr wobr ariannol a thocyn hyfforddiant Lantra gwerth £500, gyda’r gweddill yn derbyn tocyn hyfforddiant gwerth £100.

 

Methodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig Cynulliad Cymru a mynychu’r digwyddiad ond gyrrodd eiriau o gefnogaeth "Rwyf yn cefnogi’r gwobrau yma sydd, ers eu dechreuad ym 1999, wedi mwynhau tyfiant gwych yn nhermau enwebiadau, cefnogwyr, cyhoeddusrwydd, categorïau gwobrau, presenoldeb a chefnogaeth gan ddiwydiant.

 

"Mae’r gwobrau yn mynd ymhell i godi proffil cyfleon gyrfa a hyfforddiant i bob oed o fewn y sector amgylcheddol a gweithio ar y tir yn pgystal ac annog pobl newydd i’r sector ymysg pethau eraill.

 

"Rwyf yn cymeradwyo Lantra am adnabod a gwobrwyo talent/dysgwyr eithriadol o’r sector gweithio ar y tir, ac rwyf yn gobeithio y bydd y gwobrau yn parhau i hybu ac annog hyfforddiant a chyfleon gyrfa i bob oed."

 

Mae enwebiadau ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn cael eu gwahodd nawr, felly os ydych yn gwybod am rywun o’r sector tir sydd wedi rhagori yn eu maes o ddysgu neu fusnes gyda chymorth hyfforddiant, ac sydd mor ysbrydoledig â Dion, Julie, Richard a Dawn, cysylltwch â hefin.hughes@lantra.co.uk am ffurflen enwebu.