Rhoddodd y Ffair Aeaf gyfle i ni ddal i fyny gyda llwyddiannau a darganfod sut mae busnesau ledled Cymru wedi mynd o nerth i nerth gyda chefnogaeth barhaus Lantra.
Cynhaliodd Duncan Gardner, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Gymru, Cadeirydd Lantra, Gordon McGlone a Prif Weithredwr Peter Martin, swper cyn-Ffair Aeaf i bartneriaid allweddol yng ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.
Mynychwyd y swper gan arlywyddion, dirprwy arlywyddion, swyddogion blaenllaw NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, ynghyd â Jane McMillan, Pennaeth Cyllid Cymdeithasol Ewropeaidd o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.