Wednesday 10 March 2010
.

Llygod a chips i ffermwyr llwglyd TG

Mae Lantra wedi bod ar gael i esmwytho’r trawsnewid i dechnoleg fodern drwy’r Prosiect Rheoli Ffermydd gyda TG, sydd wedi cael ei sefydlu drwy rwydwaith o Golegau Addysg Bellach. Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan Menter a Busnes gyda chefnogaeth ariannol gan y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

 

Fel unrhyw fusnes arall nawr mae ffermio yn ymwneud â rheoliadau, cadw cofnod, ddeddfwriaeth a chynllun busnes. Mae hyn weithiau yn golygu gorfod defnyddio technoleg yr unfed ganrif ar hugain.

 

Mouse

Mewn cydweithrediad â Cyswllt Ffermio, mae cyrsiau Rheoli Ffermydd gyda TG yn cael eu dysgu gan diwtoriaid gyda chefndir amaethyddol ar amser a mewn man cyfarfod sydd fwyaf hwylus i grwpiau bach o 6 i 12 ffermwr. Mae’r tiwtoriaid mor hyblyg, maent wedi cynnal cyrsiau mewn tafarnau, ceginau fferm a neuaddau pentref gwledig.

 

Ers mis Awst mae’r prosiect Rheoli Ffermydd gyda TG wedi helpu bron i 6,000 o ffermwyr i gyflawni eu potensial busnes drwy wella eu perfformiad busnes, datblygu syniadau newydd a helpu i ddarganfod gwaith oddi ar y fferm.