Wednesday 03 December 2008
.

Lantra yng Nghymru yn croesawu eu aelod newydd o staff

Mae Liz Morrison yn cymryd drosodd gan Gydlynydd Cyfathrebu Cymru a Gogledd Iwerddon Jayne Bright. Ers i Jayne adael, mae Paula Smyth wedi ei chyflogi i ddelio gyda marchnata a chyfrifoldebau’r wasg, sydd wedi gadael i Liz ffocysu ar waith Lantra yng Nghymru.

 

Wedi ei chyflogi fel nyrs milfeddygol am chwe blynedd mewn amrywiaeth o leoliadau anifeiliaid bach, anifeiliaid mawr a cheffylau, parhaodd Liz i weithio fel nyrs milfeddygol wrth astudio am y pedair blynedd nesaf.

 

Wedi graddio o Brifysgol Abertawe, bu Liz yn Rheolwr y We i elusen plant Ewropeaidd, yn cynllunio, ysgrifennu a golygu cynnwys y We , gan symud ymlaen i fod yn Swyddog Marchnata a Chyfryngau i sefydliad celf Cymraeg sydd yn gweithio gydag oedolion gydag anawsterau dysgu.

 

Mae Liz yn gobeithio annog gweithwyr o fewn yr undeg saith diwydiant sydd wedi eu cynrychioli gan Lantra i ymgymryd â hyfforddiant, er mwyn dod a budd i fusnesau a denu mwy o bobl i’r sector, drwy brosiectau fel Cyswllt Ffermio.