Wednesday 03 December 2008
Search our Site
.

Lantra ar sioe

Wedi ei chysidro i fod yn un o’r sioeau da byw gyda’r proffil mwyaf yn y DU, mae’r Ffair Aeaf ddeuddydd ar Faes y Sioe Frenhinol wedi datblygu yn ddigwyddiad sydd wedi ei sefydlu yn dda, ac yn cynyddu’n gyson yn y nifer sy’n mynychu. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi denu dros 26,000 o bobl. 

 

Roedd hi’n bosib i ymwelwyr stand Lantra dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y potensial budd i’w busnes o ddatblygu sgiliau, cynllunio a hyfforddiant TG, gyda staff Lantra ar gael i gynnig atebion i unrhyw faterion hyfforddiant. Roedd cyfle hefyd i’r rhai a aeth at y stand i fwynhau arddangosfa ymarferol a llawn gwybodaeth ar gynnal a chadw llif gadwyn.

 

Stand at Winter Fair

Rhoddodd y Ffair Aeaf gyfle i ni ddal i fyny gyda llwyddiannau a darganfod sut mae busnesau ledled Cymru wedi mynd o nerth i nerth gyda chefnogaeth barhaus Lantra.

 

Cynhaliodd Duncan Gardner, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Gymru, Cadeirydd Lantra, Gordon McGlone a Prif Weithredwr Peter Martin, swper cyn-Ffair Aeaf i bartneriaid allweddol yng ngwesty’r Metropole yn Llandrindod.

 

Mynychwyd y swper gan arlywyddion, dirprwy arlywyddion, swyddogion blaenllaw NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, ynghyd â Jane McMillan, Pennaeth Cyllid Cymdeithasol Ewropeaidd o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.