Friday 29 August 2008
Search our Site
.

Canolfan galwadau newydd Lantra Cymru

Mae’r rheoliadau newydd Lles Anifeiliaid wrth Gludo (WAIT) yn gofyn fod unigolion sydd yn gyfrifol am gludo anifeiliaid ar daith dros 65Km (tua 40) milltir er gweithgaerdd economaidd, yn gorfod cael hyfforddiant a thystysgrif cymhwysedd o fis Ionawr 2008.

 

Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae pawb sydd gyda da byw yng Nghymru yn cysylltu gyda Rhaglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio, i rannol ariannu’r costau hyfforddiant a thystysgrif gysylltiol. Mae’r nifer uchel o ymholiadau’n dod i mewn i’r Rhaglen wedi ei gwneud yn angenrheidiol i gael canolfan galwadau perthnasol yn swyddfa Lantra Cymru yn Llanelwedd.

The Wales conference centre

Ar amser ysgrifennu, mae’r nifer o lefydd cyrsiau wedi eu cymeradwyo gan Lantra i gael yr ariannu 50% fel rhan o’r rhaglen hon, yn agos iawn i 5,000. Hoffai Lantra annog eraill sy’n cael eu heffeithio dan y ddeddfwriaeth hon, yn ychwanegol i’r busnesau amaethyddol, garddwriaeth cynhyrchu a choedwigaeth yng Nghymru sydd angen hyfforddiant arall, gysylltu gyda Lantra ar 01982 552646 am fwy o wybodaeth ar y gefnogaeth sydd ar gael.

 

Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol fod cymeradwyaeth ariannu wedi ei sicrhau gan Lantra cyn ymgymryd â’r hyfforddiant.