Wednesday 03 December 2008
Search our Site
.

Cefnogi Dyfodiaid Ifanc i mewn i Ffermio

Mae ffermio'n chwarae rôl arbennig o bwysig yng Nghymru, felly fel mae'r diwydiant yn dod allan o beth sydd wedi bod yn gyfnod trawmatig, mae cynlluniau'n cael eu gwneud i warchod ei ddyfodol. Rhaid i ddyfodiaid ifanc i'r sector amgylcheddol a gweithio ar y tir wynebu'r sialensiau sydd yn gadael rhai hyn yn ddealladwy wedi dadrithio. Mae'r datganiad llawn yn nodi ei bod yn amser i "ddechrau rhoi’r sylfaen yn ei lle ar gyfer diwydiant ffermio cynaliadwy yng Nghymru". Mae grymoedd dylanwadol o fewn y sector yn cael eu hannog i gamu ymlaen a gweithio gyda'i gilydd i gynnal cymunedau cefn gwlad a diogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

 

Mae Cyfarwyddwr Lantra, Duncan Gardner yn aelod o'r grŵp cynghori a gyfarfu yn swyddfa Lantra yn Llanelwedd yn ystod mis Chwefror i drafod barnau ar gynigion i gefnogi dyfodiaid ifanc i mewn i ffermio, i gael eu trosglwyddo fel rhan o'r cynllun Datblygu Gwledig 2007 - 2013.

Duncan Gardner

Mae aelodau eraill o'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru; Euryn Jones Cyfarwyddwr Polisi Amaeth, Banc Barclays; Mark Williams, Cadeirydd CFfI Cymru; Susie Hobby, Swyddog Datblygu Cefn Gwlad CFfI; Siôn Jenkins, ffermwr ifanc o Geredigion; Eirwen Williams, Pennaeth Rhaglenni Cefn Gwlad ym Menter a Busnes; John Rhys Davies, enillydd Cystadleuaeth Menter Ffermwyr Ifanc CFfI Cymru; Anthony Mears, Cadeirydd Cymdeithas Cenedlaethol Defaid Cymru; Geraint Hughes o Ffermwyr y Dyfodol Cymru; a ffermwr, gwraig fusnes a Llysgennad Sgiliau Lantra, Julie Davies.

 

Gan fod hwn yn fater sydd nawr yn perthnasu i bron bob cymuned ffermio yng Nghymru, cafodd y cyfarfod yn Llanelwedd bresenoldeb y gyflwynwraig Iola Wyn a chriw camera rhaglen materion cefn gwlad S4C, Ffermio.

 

Mae Lantra yn chwarae rhan gref iawn mewn cefnogi dyfodiaid ifanc i’r sector, fel mae Duncan Gardner yn dweud, "Rydym yn awyddus i helpu dyfodiaid newydd i ddod i mewn i’r diwydiant drwy sicrhau fod ganddynt y sgiliau a’r gallu i gystadlu a ffynnu, yn yr oes hon o fwy o ryddid yn dilyn dadgyplu taliadau cymhorthdal. Hoffem weld yr unigolion brwdfrydig hyn yn cael y cyfle i ffynnu".