Gadawodd Steven Goleg Llysfasi gyda chymhwyster Peirianneg Amaethyddol ac anrhydedd myfyriwr y flwyddyn. Ers hynny, mae wedi cyflawni cyrsiau NPTC mewn ‘Defnydd diogel o blaleiddiad’ a ‘Defnydd perthnasol o lif gadwyn’, yn ogystal â thystysgrifau Lantra Awards mewn ‘Defnyddio strimar’ a ‘Diogelwch Gweithfeydd Strydoedd a Ffyrdd.’
"Bydd bod yn llysgennad Lantra yn fy ngalluogi i rannu fy mhrofiadau gydag eraill, a gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r buddion sydd i’w cael wrth gwblhau’r cyrsiau. Rwyf yn credu’n gryf mewn gwerth a phwysigrwydd o ddatblygu sgiliau, i mi fy hun ac i’m gweithwyr. Rwyf yn gweld hyfforddiant fel rhan integrol o’m busnes, hebddo, ni fuasem wedi datblygu i’r lefel lle rydym nawr", meddai Steven Leverett.
Drwy ddefnyddio’r rhwydweithiau sydd ar gael i hybu budd hyfforddi a datblygiad, gall y llysgennad gyrraedd cynulleidfa ehangach na all Lantra ei hun ei chyrraedd. Gall hyn fod mewn cyfarfodydd gyda pherchnogion busnes eraill yn yr ardal/diwydiant, neu mewn clwb neu sefydliad aelodaeth.
Sefydliad o’r fath, Hybu Cig Cymru (HCC Meat Promotion Wales) gynhaliodd y Noson Agored Arddangosfa Fferm. Mynychwyd y digwyddiad gan dros 100 o ffermwyr ym Mis Ionawr, a oedd yn edrych ar reoli costau bwyd ac archwilio’r potensial sy’n cael eu cynnig gan rawn wedi ei dyfu gartref, gyda ffocws ar dorri costau a gwneud y gorau o’r enillion.
Yn bresennol hefyd oedd Gethin Owen, ffermwr yn Nant y Felin, Huw Powell yn cynrychioli IGER (Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd), David Peers (ADAS), a Graham Titchener (HCC).