Wednesday 03 December 2008
.

Gwybodaeth ddiweddaraf Datblygiad Sgiliau Cyswllt Ffermio

Mae Lantra yn falch iawn o’r galw cyfredol a chyson am hyfforddiant. Ymhlith yr ystod eang o gyrsiau sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer y gefnogaeth 50% mae: CEVAS (Countryside Educational Visits Accreditation Scheme), sydd yn cynnig arweiniad ar gynnal ymweliadau fferm; defnyddio peiriannau trwm; llif gadwyn a pheiriant malu coed; sganio ac A.I. gwartheg a defaid; torri cig oen, biff a phorc; a gweithredu cerbydau, gan gynnwys ATV, tractor, tynnu trelar (Cat B+E) a LGV (nwyddau mawr); yn ogystal i’r ymateb parhaus lefel uchel gan y diwydiant tuag at gael tystysgrifau cymhwysedd mewn "Lles Anifeiliaid Wrth Gludo."

 

 

Hyd yma mae dros 5,000 o lefydd ar gyrsiau wedi cael eu cymeradwyo, nifer llawer mwy nag oedd wedi ei ragweld. Oherwydd y gofyn digynsail hwn am gefnogaeth 50% tuag at gost hyfforddiant ac asesiad drwy raglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio, mae Lantra wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddiogelu arian i gefnogi’r llefydd ychwanegol. Mae’r cyfanswm nawr yn debygol o gyrraedd 7,500 erbyn diwedd Mai 2008.

ATV training