Am Y Gwobrau

Mae Lantra Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 15 Ionawr 2026 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.

 

Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.

1C6A6064 Min

Sut I Wneud Enwebiad

 

 

  • Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17th Hydref 2025

 

  • Bydd y beirniadu yn digwydd ar 27th a 28th Hydref gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol

 

  • Bydd beirniadu yn cael ei wneud trwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddewis.

 

 

 

Categorïau Eleni

Mae'r categorïau'n rhychwantu nifer eang o sectorau ar y tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sy'n gweithredu mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.

 

  • Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau)
  • Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn)
  • Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
  • Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio
  • Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio, a'r Wobr Cyfraniad Oes

 

Yn ogystal, eleni rydym yn falch o gyhoeddi categori newydd - Gwobr Coedwigaeth a Phrosesu Pren a fydd yn helpu i amlygu'r talent eithriadol sy'n bodoli yn y sector.

1C6A6053 Min

 

Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru. 

 

Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!

 

Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”

 


 

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru

 

Cycylltwch

 

 

Royal Welsh Showground
Llanelwedd
Builth Wells
Powys
LD2 3WY

 

Telephone: 01982 552646
Email: wales@lantra.co.uk

 

News

Lantra, Land-Based Assessment Ltd, and BIGGA forge new strategic partnership

Read more
News

Have Your Say on the Future of Horticulture and Landscape…

Read more
News

Lantra announced as joint winners of the Farm Safety Affiliate…

Read more